Henffych, Ŵyn Bychain y Bragdy,
Dydi hi ddim yn bosib atal y Gwanwyn, ys dywad neb llai na Tom Waits, ac er gwaetha’r oerfel diweddar mae Bragdy’r Beirdd yn cydweld â’r bardd hiraethus hwnnw. Amser cyhoeddi felly pwy fydd i’w clywed yn prancio a brefu ar borfeydd bras y Rockin’ Chair ar nos Iau 11 Ebrill eleni!
Bydd gennym gwmni neb llai na’r ded-pan-fardd Iwan Rhys.
Enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd yn 2001 a 2008 ydi Iwan, ac aelod o dim Talwrn y Beirdd Y Glêr – mae Iwan yn llais amlwg ymhlith y to ifanc o feirdd. Mae’n stompiwr o fri ac enillydd Stomp y Steddfod 2011 (gwyliwch y fideo yma am wledd o chwerthin).
Yn wreiddiol o Borth-y-rhyd yn Sir Gaerfyrddin, mae bellach yn byw yng Nghaernarfon, ac am wneud y daith i’r brifddinas yn arbennig yn ei gnu gorau un, felly dewch i’w weld!
Hefyd bydd yr amryddawn Anni Llŷn hefo ni. Mae Anni yn wyneb cyfarwydd ar raglenni plant Stwnsh, ond mae i hefyd wrth gwrs yn llenor, cyfansoddwraig a chantores ddawnus tu hwnt. Anni oedd Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd 2012 yn Eryri, ac mae hefyd wedi cyhoeddi llyfrau i blant.
Yn ddiweddar bu ar daith farddol a cherddorol Cnoi Draenogod, lle daeth dawn Anni i gyfansoddi a chanu i sylw Bragdy’r Beirdd – does dim dwywaith y rhed ias lawr eich cefn o’i chlywed yn canu’n fyw. Bydd ei llais yn dirgrynnu trwy’r Rockin’ Chair, coeliwch chi ni!
DJ y noson fydd Hefin Jones, a chofiwch y bydd Catrin Dafydd ein compère campus yn bresennol, a dim ond newydd gamu oddi ar yr awyren yn ôl o’i thaith i dde a chanol America fydd hithau, felly disgwyliwch flas cyfandir arall ar y noson, yn ogystal â’r cyri gafr arferol!
Iwan Rhys
Anni Llŷn
Beirdd y Bragdy:
Catrin Dafydd
Osian Rhys Jones
Rhys Iorwerth
DJ Hefin Jones
Nos Iau 11 Ebrill 2013
8.30 pm
Rockin’ Chair,
Glan yr Afon, Caerdydd
Mynediad am ddim

