Ar ôl saith mlynedd yn cynnal digwyddiadau barddol, byddwn yn cyhoeddi Cyfrol Bragdy’r Beirdd i gyd-fynd ag ymweliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru â Chaerdydd yn 2018.
Bydd y gyfrol hon, sy’n cael ei chyhoeddi gan Cyhoeddiadau Barddas, yn llawn pigion o gerddi gorau’r Bragdy dros y blynyddoedd. Mae cyfraniadau arbennig yn cofio ymweliadau beirdd gwadd â’r Bragdy, neu atgofion am ein nosweithiau mwyaf cofiadwy.
Ceir sôn hefyd am sut aeth y tri sylfaenydd, Catrin Dafydd, Rhys Iorwerth ac Osian Rhys Jones trwy’r felin nôl yn 2011 wrth ddod o hyd i enw i’w noson farddol newydd.
Pentwr o gerddi
Rhwng cloriau Cyfrol Bragdy’r Beirdd mae cerddi a geiriau caneuon gan beth wmbreth o Feirdd y Bragdy:
- Llŷr Gwyn Lewis
- Gruffudd Owen
- Casia Wiliam
- Gwennan Evans
- Osian Rhys Jones
- Catrin Dafydd
- Rhys Iorwerth
- Aron Pritchard
- Gruffudd Antur
- Anni Llŷn
Cerddi a chaneuon llafar yw nifer fawr o’r rhai yn y gyfrol, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu cymaint â phosib rhwng y cloriau. Ceir cerddi doniol, crafog, dirdynnol a budur. Ceir rhai cerddi sy’n gwthio ffiniau chwaeth a phriodoldeb, ond dyna sy’n gyffredin mewn nosweithiau o’r fath.
Bydd rhai pobl yn gwingo, eraill yn chwerthin, ond dyna natur y cerddi hyn. Maent yno i’w mwynhau ond rydym wedi cynnwys rhybudd nad yw rhai o’r cerddi yn addas i rai dan 16 oed.
Cyfraniadau arbennig
Yn aml byddwn yn gwahodd beirdd gwadd i nosweithiau’r Bragdy. Ac ymysg cerddi Cyfrol Bragdy’r Beirdd mae cyfraniadau arbennig iawn gan
- Gwyneth Glyn
- Aneirin Karadog
- Geraint Jarman
Mae Gwyneth Glyn, un o hoelion wyth nosweithiau eisteddfodol llwyddiannus y Bragdy, yn edrych yn ôl ar rai o’i pherfformiadau mwyaf cofiadwy a’i hatgofion o’r nosweithiau hynny.
Mae Geraint Jarman yn edrych yn ôl ar noson arbenning iawn yn 2012 pan fu yn fardd gwadd yn noson Bragdy’r Beirdd yn y Rockin’ Chair, Glan yr Afon. Roedd hon yn un o nosweithiau mwyaf trydanol a chofiadwy’r bragdy a dyma gyfle i glywed gan y rociwr a’r bardd ei hun.
Edrych y mae Aneirin Karadog, fel y doethur ag ydyw, ar natur perfformio byw a pherthynas y bardd a’i gynulleidfa neu ei chynulleidfa. Trwy wneud hynny yng nghyd-destun ei ddau ymweliad gwadd â’r Bragdy, mae’n dod ag ychydig o ysgolheictod i dudalennau’r gyfrol hon.
Lansio Cyfrol Bragdy’r Beirdd
Bydd y gyfrol hon yn cael el lansio ar ddiwedd mis Mehefin 2018 mewn dau ddigwyddiad arbennig.
Ar ddydd Sadwrn 23 Mehefin cynhelir Gŵyl Gerallt yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Bydd Llŷr Gwyn Lewis a rhai o gyfranwyr y gyfrol yn trafod y gyfrol a dallen rhai cyfraniadau am 2pm.
Wedyn ar nos Wener 29 Mehefin, yn ystod wythnos Tafwyl, bydd noson lansio Cyfrol Bragdy’r Beirdd a Beirdd y Bragdy oll yn ymgynnull am barti a bydd Iwan Huws yn gerddor gwadd. Dewch i fachu copi o’r gyfrol a’ch chael hi wedi’i harwyddo gan y beirdd!
Prynu Cyfrol Bragdy’r Beirdd
Bydd y gyfrol hon ar werth ym mhob siop lyfrau dda (ac ambell un gwael).