Canllawiau i gyfranwyr: adrodd cerdd ar y we

Os byddwch yn recordio cerdd i’w chyhoeddi, neu’n adrodd y gerdd fel rhan o ddarllediad ffrwd byw, dyma rai canllawiau sut i wneud hynny’n llwyddiannus.

Cynnwys

Eich amgylchedd

Gosod eich ystafell

Gwnewch yn siŵr eich bod mewn ystafell dawel. Ni ddylai’r ystafell fod yn un ag eco mawr ynddi.

Ceisiwch wneud yn siŵr nad oes neb yn tarfu arnoch yn ystod y recordiad – boed yn blentyn neu’n oedolyn.

Goleuo

Gwnech yn siŵr bod golau digonol yn yr ystafell.

Os nad yw’r ystafell yn naturiol olau, rhowch lamp neu ddwy wrth eich hymyl gan sicrhau fod eich wyneb yn glir.

Ceisiwch ddefnyddio un math o olau (naturiol neu lamp).

Ceisiwch osgoi:

  • defnyddio golau lamp a golau haul arnoch ar yr un pryd.

Dyfeisiau a band eang

Sicrhewch fod y ddyfais y byddwch yn ei defnyddio unai wedi:

  • ei gwefru o flaen llaw, neu
  • ei phlwgio i fewn wrth recordio.

Dylech osgoi:

  • bod eich dyfais yn diffod ar ganol recordio neu ddarlledu gan nad oes digon o fatri.

Band eang

Ceisiwch sicrhau fod eich cysylltiad band-eang yn ddigon cryf.

Os oes angen, gofynnwch i weddill y tŷ ymatal rhag gwylio Netflix, neu wneud galwadau Skype ar yr un amser.

Sain

Dyma elfen hollbwysig o recordio neu ddarlledu ar gyfer y we. Dim ots pa mor dda yw safon eich llun, os nad oes modd eich clywed yn glir, bydd y gynulleidfa yn laru.

Nid yw safon meicroffon cynhenid gliniadur neu ffôn symudol bob tro’n addas. Ond gall fod yn ddigon da os yw’ch ystafell yn ddi-eco ac yn dawel.

Yn ddelfrydol bydd gennych:

Calla dawo!

Os ydych yn darlledu fel rhan o grŵp dros y we, dylech

  • wneud eich hun yn fud os nad eich tro chi ydi hi i siarad
  • bod yn wyliadwrus nad ydych yn tarfu ar rhywun arall sy’n siarad.

Mae rhaglenni fel Zoom yn caniatau i chi wneud hyn.

Dylech osgoi:

  • creu unrhyw sŵn cefndirol
  • cnoi, yfed neu dyrchu mewn paced creision.

Llun

Dylai fod camera eich ffôn symudol neu dabled yn addas. Os oes gwegamera safonol gennych, gorau oll.

  • Gosodwch eich camera ar yr un lefel â’ch llygaid.
  • Rhowch eich pen a’ch ysgwyddau ynghanol y ffrâm.
  • Gosodwch y camera ar arwyneb gwastad a chadarn, neu defnyddiwch dreipod.

Dylech osgoi:

  • dangos mwy o’r wal neu’r nenfwd na’ch wyneb
  • gosod y camera’n rhy agos i’ch wyneb
  • symud wrth recordio
  • dal y camera gyda’ch llaw
  • gosod y camera yn rhy isel fel bod pawb yn gweld eich ffroenau!

Y perfformiad

Y gerdd sydd yn dal sylw’r gynulleidfa. Dyma pam eu bod wedi dewis gwrando neu wylio.

Os ydych wedi paratoi popeth arall o ran y dechnoleg a’ch amgylchedd, mae dweud y gerdd yn iawn yn hollbwysig.

Trwy gydol y perfformiad mae’n hollbwysig eich bod yn adrodd yn glir, yn edrych ar eich cynulleidfa (trwy’r camera) ac yn peidio â bod yn hirwyntog.

Eich ystum

Wrth adrodd cerdd mewn digwyddiad byw, byddwn gan amlaf yn sefyll tu ôl i’r meicroffon. Mae hyn yn help i ni anadlu’n ddwfn, i gryfhau’r llais ac i adrodd yn bwyllog a chlir. Felly mae adrodd cerdd ar y we hefyd.

Wrth weithio gyda gliniadur, ffôn neu dabled, nid yw hyn bob tro’n ymarferol wrth recordio neu ffrydio o’r cartref. Os na fedrwch sefyll, ceisiwch:

  • ddod o hyd i gadair solat a’ch traed ar y llawr
  • eistedd yn gefnsyth.

Ceisiwch osgoi:

  • crymu dros eich sgrin
  • gorwedd neu led orwedd ar gadair neu wely esmwyth
  • adrodd y gerdd yn ffwrdd â hi.

Darllen

Os nad yw’r gerdd ar eich cof, mae’n anochel y byddwch yn darllen.

Ceisiwch:

  • ddal y papur yn ddigon uchel, ond allan o olwg y sgrin
  • godi testun y gerdd ar sgrin eich ffôn, tabled neu liniadur wrth recordio
  • edrych ar y camera gymaint â phosib.

Rhagymadroddi

Daeth eich tro i ddweud eich cerdd. Ond beth os ydych am ragymadroddi?

Bydd cynulleidfa fyw go iawn yn reit oddefgar wrth ragymadroddi, o fewn rheswm.

Ond ar y we, bydd y gynulleidfa yn eich gweld ar sgrin. Os byddant yn laru, byddant yn fwy tebygol o droi eu sylw at bethau eraill.

Dylai’ch rhagymadrodd fod:

  • yn gryno ac yn berthnasol
  • yn llawer byrrach na’r gerdd
  • wedi ei baratoi a’i ymarfer o flaen llaw.

Os yw’ch rhagymadrodd yn hirwyntog neu’n or-fanwl, holwch eich hun pam nad yw’r pethau hyn yn glir, neu wedi eu hawgrymu’n gynnil, yn y gerdd ei hun.

Dylech osgoi:

  • dweud beth yw neges y gerdd wrth ragymadroddi
  • esbonio pob cyfeiriadaeth.

Adrodd eich cerdd

Gwnewch yn siŵr ei bod yn glir i’r gynulleidfa:

  • pryd mae’r gerdd yn cychwyn. Dwedwch ei theitl.
  • pryd mae’r gerdd yn gorffen. Rhowch signal, neu dwedwch ‘diolch’.

Adroddwch y gerdd yn glir ac yn bwyllog. Nid yw cliwiau neu ystumiau corfforol yr un mor weledol dros y we. Ceisiwch gyfleu’r elfennau cynnil hynny yn eich llais, eich amseru neu eich cywair.