Ymddiheuriad!

Diolch i bawb wnaeth gefnogi a bod o gymorth i Bragdy’r Beirdd yn arwain at y noson a oedd i fod i’w chynnal nos Wener 18 Gorffennaf. Mae’n debyg y bydd pawb wedi clywed am y digwyddiad yn y Canton Sports Bar; yn anffodus doedd dim dewis gennym ond gohirio’r noson. Diolch arbennig i Menter Caerdydd am eu cymorth yn ystod wythnos Tafwyl.

Y newyddion da yw ein bod am gynnal noson arall ym mis Medi. Mi wnawn ni barti mwy byth ohoni’r tro nesa. Manylion i ddilyn!

Diolch x

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Mae'r wefan hon yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Dysgwch sut mae eich data sylwadau yn cael ei brosesu .