Beth yw Bragdy’r Beirdd?

Noson lenyddol yng Nghaerdydd yw Bragdy’r Beirdd.

Sefydlwyd y noson yn 2011 gan dri bardd sef Catrin Dafydd, Osian Rhys Jones a Rhys Iorwerth.

Fel rhan o’r noson, bydd y trefnwyr a beirdd neu gyfranwyr gwadd yn diddanu’r gynulleidfa. Bydd hefyd DJ ar y noson yn chwarae ychydig o gerddoriaeth pan fo’r beirdd yn tewi.

Nod Bragdy’r Beirdd yw gwneud gwaith beirdd mor hygyrch â phosib i drwch poblogaeth y ddinas. Trwy gael cynulleidfa dda sydd yn wirioneddol frwd ar y noson, ac yn ei mwynhau, mae’r trefnwyr a’r perfformwyr hwythau yn ysu i gael cymryd rhan yn y noson.

Mae pob noson hyd yn hyn wedi bod yn llwyddiant diolch i feirdd a pherfformwyr yn dod o’u gwirfodd er mwyn cael profi cynulledifa frwd Bragdy’r Beirdd…

Mae’n noson anffurfiol iawn sy’n gwbl annibynnol ac nid yw’n derbyn nawdd heblaw am haelioni perchogion y tafarndai sydd wedi rhoi’r lleoliad inni yn rhad ac am ddim.

Os am wybod y diweddaraf am Bragdy’r Beirdd:

Dilynwch Bragdy’r Beirdd ar Twitter