Clwb Chwaraeon Brymbo
Cyfeiriad:
Tanyfron, , Wrecsam, LL11 5TG
Tanyfron, , Wrecsam, LL11 5TG
Awst 5, 2025
20:00 – 0:00
Ifor ap Glyn yn cyflwyno noson o gerddi a chaneuon i ddathlu Wrecsam a’r Fro.
Bydd enwau’r Beirdd fydd yn cymryd rhan yn cael eu cyhoeddi wrth i ni agosáu at yr Eisteddfod.
Y lleoliad
Bydd byrddau dull cabaret mewn stafell fawr foethus mewn canolfan a fu’n gartref i’r gweithwyr dur ers degawdau. Bydd prydau o fwyd ar gael a sawl cwrt sboncen a thenis os ydych am ddod yn gynnar ac yn gêm!
Teithio
Mae Clwb Chwaraeon Brymbo (LL11 5TG) rhyw ddwy filltir i’r gogledd o ganol Wrecsam. Mae bysiau gwasanaeth rheolaidd rhwng y dre a Brymbo, a byddwn ni’n trefnu bysiau yn ôl at y Maes Carafanau ar ddiwedd y noson. Mae maes parcio mawr ar y safle.
Tocynnau
Mae’r tocynnau yn £15 ac ar gael
- ar wefan Cymdeithas yr Iaith
- Siop Siwan yn Tŷ Pawb
- Saith Seren
Cyfres: Bragdy'r Beirdd yn yr Eisteddfod